Côr y PENTAN

Scheduled time : 11:00 – 11:45
Pentan

 Yr Wyddgrug yw cartref Côr y Pentan.

Rydym yn mwynhau canu harmoni 4 llais, yn bennaf yn Gymraeg, gan gwmpasu ystod eang o ganeuon clasurol i ganeuon gwerin Cymraeg, i emynau a chaneuon pop.Rydym yn cefnogi digwyddiadau niferus yn y dref (a’r ardal gyfagos) ac yn perfformio mewn priodasau a digwyddiadau codi arian, ac wedi helpu i godi llawer o arian ar gyfer elusennau lleol.

Sefydlodd Siân Meirion y côr yn 1999, a nawr yn 2024 rydym yn dathlu tros 25 mlynedd o ganu!

Côr y PENTAN is based in Mold.

We enjoy singing 4 part harmony, mainly in Welsh, covering a wide range of songs from classical to Welsh folk songs, hymns and pop songs. We support numerous town events (and in the surrounding area) and perform at weddings and fundraising concerts, have helped raise a lot of money for local charities.

Siân Meirion established the choir in 1999, and now in 2024, we are celebrating over 25 years of singing!